Gweld swydd wag -- Swyddog Bioamrywiaeth

Arall
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 8
£27,514
Cyfnod Penodol

Dyma gyfnod cyffrous a heriol ym myd llywodraeth leol, wrth iddi barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Bydd rôl llywodraeth leol o ran llywio dyfodol ein cymunedau lleol yn bwysicach nag erioed.

Mae gweithio ym myd llywodraeth leol yn un o'r heriau mwyaf anodd ac ysgogol i'r ymennydd wrth i ni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Rydyn ni eisiau penodi dau Swyddog Bioamrywiaeth ar sail cyfnod penodol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023 ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y bydd estyniad i'r swydd, yn amodol ar gyllid yn y dyfodol.

Bydd y swydd yma'n rhoi'r cyfle i chi fod yn rhan o Garfan Cefn Gwlad y gwasanaeth Ffyniant a Datblygu. Byddwch chi'n cyflawni gwaith cyffrous yn ymwneud â bioamrywiaeth leol, gwaith ar faterion cadwraeth bioamrywiaeth allweddol, yn ogystal â bod yn rhan o'r Bartneriaeth Natur Leol.  Byddwch chi'n cynnal gwaith ar faterion bioamrywiaeth amrywiol ledled holl adrannau Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac ar y cyd â sefydliadau partner.

A chithau'n Swyddog Bioamrywiaeth byddwch chi'n cefnogi gwaith materion bioamrywiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf drwy gyflenwi cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio'n benodol ar ddarparu cymorth grant ar gyfer prosiect Tirwedd Fyw'r Cyngor a chyflawni gwaith rheoli blodau gwyllt.

Rhaid i chi fod yn greadigol, gydag agwedd 'gallu gwneud', ynghyd â llygad craff am fanylion. Byddwch chi'n meddu ar wybodaeth gadarn am gyd-destun cynefinoedd a rhywogaethau cymoedd de Cymru, yn ogystal â dealltwriaeth o reoli bioamrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned.

Byddai profiad blaenorol o waith yn ymwneud â grantiau prosiect a chyllidebu yn fuddiol. Mae brwdfrydedd ac angerdd am waith cadwraeth natur, ac ymrwymiad i weithio'n hyblyg yn hanfodol.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
30 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.