Gweld swydd wag -- Hebryngwr Croesfan Ysgol

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 2
£9.59 yr awr
Rhan-amser Parhaol - tymor ysgol yn unig

Ysgol Gynradd Caradog – 7 awr 30 munud

Ysgol Gynradd y Darren-las – 6 awr 15 munud

Ysgol Gynradd Llwynypïa – 7 awr 30 munud

Ysgol Garth Olwg – 7 awr 30 munud

Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn – 7 awr 30 munud

Rydyn ni'n chwilio am nifer o Hebryngwyr Croesfan Ysgol parhaol i weithio ledled Rhondda Cynon Taf. Mae swydd Hebryngwr Croesfan Ysgol yn rhoi boddhad mawr ac mae'n eich galluogi chi i ddarparu gwasanaeth amhrisiadwy i'ch cymuned. Swydd ran amser yn ystod tymor yr ysgol ydy hon. 

Rydyn ni'n edrych am unigolion sydd eisiau rhoi cymorth ac sydd â gwir ddiddordeb mewn diogelwch plant ac oedolion ar eu ffordd i'r ysgol ac adref eto. Mae ein Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn bobl brydlon, ddibynadwy, onest ac ymroddedig. Mae eu cymunedau yn meddwl yn fawr ohonyn nhw, a waeth bynnag fo'r tywydd, nhw ydy un o wynebau mwyaf cyfeillgar y gwasanaeth cyhoeddus, sy'n gwrtais ar bob adeg.

Mae synnwyr cyffredin ac ymarferol yn bwysig ar gyfer y swydd. Dylech chi fod yn effro i faterion diogelwch y ffyrdd a bod yn gyfarwydd â Rheolau'r Ffordd Fawr cyfredol. Mae'r gallu i bwyso a mesur cyflymder a phellter cerbydau ac ymwybyddiaeth o bellteroedd stopio ym mhob math o dywydd hefyd yn angenrheidiol.

Bydd gofyn ichi gyfathrebu â phlant ac oedolion i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel tra byddan nhw'n croesi. Bydd Uned Diogelwch y Ffyrdd yn sicrhau eich bod chi'n cael yr hyfforddiant, gwisg a chyfarpar sydd eu hangen arnoch chi i gyflawni eich dyletswyddau.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr gael archwiliadau cefndir boddhaol. Bydd ymgeiswyr yn destun asesiadau iechyd rheolaidd ar gyfer ffactorau cynhenid ​​i'r swydd yma. 

Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn Hebryngwr Croesfan Ysgol neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth am y swyddi gwag ar hyn o bryd, ffoniwch Uned Diogelwch y Ffyrdd ar (01443) 494785.    

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Amrywiol
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
7 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.