Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd yr Ystafell Ffitrwydd

Hamdden
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 4
£9.98 yr awr
Rhan-amser Parhaol

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r garfan ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant. Hoffem benodi Cynorthwy-ydd yr Ystafell Ffitrwydd parhaol.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i weithio yn ein hystafell ffitrwydd ac i helpu darparu ein rhaglen ddosbarthiadau boblogaidd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â charfan fach o weithwyr ffitrwydd proffesiynol gan gynnig y safon uchaf o gyfarwyddyd, gwasanaeth i gwsmeriaid a chynnal amgylchedd ffitrwydd glân a diogel bob amser. Yn ogystal â darparu hyfforddiant unigol i'n haelodau mae ein Cynorthwywyr Ffitrwydd yn helpu i gyflwyno ein rhaglen ymarfer corff grŵp, felly mae'r gallu i ddarparu hyfforddiant dosbarth neu barodrwydd i hyfforddi i wneud hynny yn hanfodol.

Mae'r rôl yn galw am weithio yn ystod y dydd, gyda'r nos, dros y penwythnos ac ar wyliau banc ar sail rota.

Pe hoffech chi ddysgu rhagor am y swydd yma, ffoniwch Gary Dalton – Rheolwr Hamdden ar 01443 224616 neu e-bostiwch gary.d.dalton@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

30 awr yr wythnos (yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar y penwythnos).
Llantrisant Leisure Centre
Southgate Park
Llantrisant
CF72 8DJ
31 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.