Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 5
£20,043
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni am benodi Gweithiwr Cymorth brwd a llawn cymhelliant i weithio'n llawn amser yn ein Gwasanaeth 16+.

Gan weithio yn unol â gofynion Deddf Plant 1989, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, mae’r Garfan 16+ yn darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sail gofal a chymorth; pobl ifainc sydd mewn gofal a'r rhai sydd â phrofiad o ofal; yn ogystal â phobl ifainc sy'n ddigartref yn Rhondda Cynon Taf.

A chithau'n Weithiwr Cymorth yn y gwasanaeth yma, byddwch chi'n gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r garfan gan gynnwys Uwch Ymarferwyr, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Personol a byddwch chi'n ymgymryd â chymorth ymarferol, yn rhan o gynllun person ifanc. Bydd hyn yn cynnwys mynd i apwyntiadau gyda phobl ifainc, gwaith uniongyrchol un wrth un, gwaith sy'n canolbwyntio ar weithgareddau; bydd pob un o'r rhain o dan gyfarwyddid aelodau'r garfan.

Bydd rhaid ichi feddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda phobl ifainc a bod â pharodrwydd i weithio gyda'r grŵp oedran yma. Mae'r gwaith yn werth chweil ac hefyd yn heriol.

Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu'n allanol a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n annibynnol ac yn hyblyg ond byddwch chi bob amser yn cael cyfarwyddid, o ran y meysydd gwaith y gofynnir amdanyn nhw.

Mae'r Gwasanaeth 16+ (Dwyrain) yn gwasanaethu Cwm Cynon a rhan o ardal Taf-elái yn Rhondda Cynon Taf. Bydd swyddfa'r garfan yn Nhŷ Trevithick un diwrnod yr wythnos yn ogystal â gweithio gartref. Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Elizabeth Cole, Rheolwr y Garfan, Gwasanaeth 16+ (Dwyrain) ar (01443) 425006.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
30 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.