Gweld swydd wag -- Uwch Beiriannydd

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 11
£36,371
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n gobeithio recriwtio Uwch Beiriannydd Priffyrdd i ymuno â'r Garfan Strwythurau yn rhan o Adran Rheoli Asedau Seilwaith Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.

Bydd deiliad y swydd yn elwa o:

  • Rhaglen hyfforddi a mentora gyda'r nod o gynnal datblygiad parhaus y garfan.
  • Ymuno â charfan strwythurau ddeinamig a phrofiadol.
  • Gweithio ar amrywiaeth o fathau o strwythurau sy'n cyflawni ystod o dasgau peirianneg, o waith asesu a dylunio i baratoi dogfennau contractau, a chadw golwg ar agweddau masnachol prosiectau.
  • Cyfleoedd sylweddol i wella'i wybodaeth a chymryd perchnogaeth o brosiectau o fewn strwythur carfan gefnogol.
  • Dysgu am weithdrefnau a gofynion awdurdodau lleol.

Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Laurence Sutton, Arweinydd y Garfan Strwythurau Priffyrdd ar (01443) 281168.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
27 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.