Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Plant - Swydd Achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 4
£10.18 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Garfan Gofal Plant. Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig i ymuno â'n carfan o weithwyr gofal plant achlysurol. Bydd deiliaid y swydd yn gweithio ym mhump o leoliadau gofal plant yr Awdurdod Lleol yn Rhondda Cynon Taf gan ddarparu cyfleoedd dysgu cyffrous mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol i blant rhwng 6 wythnos ac 8 mlwydd oed.

Dyma gyfle gwerthfawr i feithrin ystod eang o sgiliau a chael profiad o weithio mewn nifer o leoliadau gofal plant.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch Natasha Berry, Rheolwr Cyflawni Gofal Plant: Natasha.Berry@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Yn ôl y galw
Flying Start Pontypridd Childcare Setting
Unit 6, Maritime Offices
Woodland terrace
CF37 1DU
2 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.