Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Swydd Achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£12.91 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Bydd y swydd achlysurol yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio sifftiau ar draws 4 cartref preswyl i blant yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y sifftiau'n cynnwys diwrnodau, prynhawniau, nosweithiau a gweithio ar benwythnosau, pan fydd aelodau eraill o staff yn absennol ac er mwyn cynyddu lefelau staffio yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Bydd y swydd hefyd yn gofyn am ddyletswyddau cysgu yn y lleoliad yn unol ag anghenion y gwasanaeth.

Wrth weithio gyda charfan reoli brofiadol a charfanau staff, bydd angen i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i weithio gyda phlant a phobl ifainc, a allai fod wedi cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn greadigol, hyblyg ac arloesol wrth ddarparu gofal a chymorth o ddydd i ddydd, a bydd disgwyl iddyn nhw ymgymryd â hyfforddiant penodol i sicrhau gwell deilliannau i blant.

Bydd y swydd yn cynnwys lefel uchel o ymgysylltiad gweithredol â phlant a phobl ifainc, a dylai ymgeiswyr fod yn effro i'r gofyniad i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau a gwaith uniongyrchol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac ymgymryd â Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) cyn pen 2 flynedd ar ôl cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd gofyn i'r unigolyn llwyddiannus deithio'n annibynnol yn unol â gofynion y swydd.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Mandy Meredith ar 07880044429.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwch, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, mae hon yn hysbyseb barhaus a gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweld yn rheolaidd.

Yn ôl y galw
Residential Children's Homes across RCT
Various locations across RCT
Various locations across RCT
CF38 2DS
30 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.