Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Achlysurol – Gofal Ychwanegol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 5
£10.39 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Carfan Gofal Ychwanegol

Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a hunan-ysgogol i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i roi cymorth i unigolion yn ein cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ym Mhontypridd (Cwrt Yr Orsaf).

Byddai profiad o fod yn gefn i bobl o fewn cyd-destun gofal cymdeithasol yn ddymunol ond ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl.  Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol.

Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n ddibynadwy, yn barod i ddysgu sgiliau newydd, ac sydd â'r gallu i ddefnyddio mentergarwch.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster gofal NVQ/FfCCh Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu ddangos ymrwymiad i weithio tuag ato. Byddwch chi hefyd yn cael eich cefnogi i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'r bartneriaeth gref sydd gyda ni gyda'r adran hyfforddiant fewnol ymroddedig yn sicrhau bod cymorth dysgu yn diwallu anghenion ein gweithwyr yn unigol. Byddwn ni hefyd yn ad-dalu ffioedd cofrestru yn brydlon.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn ac yn cyhoeddi amserlenni gwaith ymlaen llaw. Rydyn ni'n ymdrechu i gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i ddiwallu eich anghenion. Mae ein staff gofal yn gweithio 5 diwrnod, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; nosweithiau, penwythnosau, a gwyliau banc, gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd y swydd hefyd yn gofyn am y gallu i weithio sifftiau. Fel aelod achlysurol o staff, bydd disgwyl i chi weithio pob math o sifft, weithiau ar fyr rybudd.

Am sgwrs anffurfiol neu i ddysgu rhagor am y swydd cyn i chi wneud cais, ffoniwch Paul Stephens ar 07392193773 ac mi fydd e'n falch o siarad â chi.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Achlysurol - yn ôl y gofyn
Cwrt Yr Orsaf
Union Street
Graig
CF37 1SD
13 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.