Gweld swydd wag -- Swyddog Graddedig Dadansoddi Data - Swydd Dros Dro

Cyfleoedd i Raddedigion
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 8
£26,317
Cyfnod Penodol

Tymor Penodol - 2 flynedd

Cynllun Graddedigion Cyngor RhCT 2020

Mae swydd i raddedigion gyda Chyngor RhCT yn agor drysau i swyddi a chyfleoedd gyrfa rhagorol eraill.

Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Fe fydd rôl Llywodraeth Leol o ran llywio dyfodol ein cymunedau lleol yn bwysicach nag erioed.

O weithio i Lywodraeth Leol byddwch chi'n wynebu rhai o'r heriau caletaf sy'n ysgogi'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Mae'r Cyngor unwaith eto'n recriwtio gweithwyr yn rhan o'i Raglen i Raddedigion. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i weithio mewn amgylchfyd bywiog ac i feithrin medrau newydd a throsglwyddadwy. Yn ogystal, mae'n darparu cyfleoedd i gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol ac i ddatblygu gyrfa broffesiynol yn Rhondda Cynon Taf.

O gymryd rhan y rhaglen yma, byddwch chi'n derbyn hyfforddiant yn y gweithle yn ogystal ag yn y coleg. Byddwch chi hefyd yn derbyn cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) a buddion megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â Chanolfannau Hamdden Rhondda Cynon Taf a Chynllun Buddion i Staff.

Rydyn ni'n chwilio am berson graddedig i weithio yn ein Swyddfa Gwelliannau Digidol ac yn croesawu ceisiadau gan raddedigion sydd â chymhwyster gradd 2.2 mewn cymhwyster TG priodol. Er enghraifft: BSc (Anrh) Gwyddor Data / Dadansoddeg, BSc (Anrh) Dadansoddeg Busnes, BSc (Anrh) Cyfrifiadureg / Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi ac yn cyflawni Strategaeth Trawsnewid Digidol y Cyngor trwy yrru darpariaethau'r gwasanaeth digidol i fod yn weithredol ledled y sefydliad. Bydd modd i hyn gael ei alluogi mewn ffordd wybodus trwy ddadansoddeg data.

Ar ôl llunio rhestr fer gychwynnol, bydd asesiadau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. I'r rhai sy'n cael eu gwahodd i'r cam nesaf, bydd cyfweliadau unigol yn cael eu cynnal ar unai 22 neu 23 Mehefin 2020. Oherwydd nifer fawr y ffurflenni cais, dydy'r dyddiadau yma ddim yn rhai hyblyg ond efallai y byddan nhw'n newid.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, e-bostiwch: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
Rhondda Fach Leisure Centre
East Street
Tylorstown
CF43 3HR
1 Medi 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.