Gweld swydd wag -- Swyddog Diogelwch Teithiol Achlysurol

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 4
£21,575 pro rata
Gweithwyr Dros Dro

Mae uned teledu cylch cyfyng (CCTV) Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth ymateb i larymau sy'n canu mewn adeiladau amrywiol sy'n eiddo i'r awdurdod.   A chithau'n swyddog diogelwch teithiol achlysurol bydd eich swydd yn cynnwys mynd i safleoedd, depos ac adeiladau'r sir a'u patrolio nhw.  

Bydd gofyn i chi ddefnyddio system adrodd â thag a chysylltu gyda'r ystafell reoli staff/heddlu neu asiantaethau eraill yn ôl y galw.  Byddwch chi'n gweithio yn ôl yr angen (sy'n cynnwys gwyliau banc a phenwythnosau) ac yn rhan o garfan fechan mewn amgylchedd caeedig a chyfrinachol.

Bydd angen ichi weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a blaenoriaethu llwyth gwaith. Dylech chi ddangos sgiliau cyfathrebu ardderchog.   Bydd gofyn i chi weithio a chanolbwyntio dan bwysau a meddu ar y gallu i ymdopi â digwyddiadau mewn modd tawel a digyffro.  Bydd sgiliau arsylwi effeithiol a sylwi ar fanylion yn hanfodol i baratoi cofnodion cywir a datganiadau tyst ar gyfer y llys.  Rhaid ichi fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura ac â'r gallu i weithredu'r system wyliadwriaeth yn dilyn cyfnod o hyfforddiant.  Fe ddylech chi fod â'r gallu i deithio yn annibynnol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch Wayne Bluck: wayne.bluck@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Gwaith achlysurol yn unol â rota staff
CCTV Control Centre
Ty Elai
Williamstown
CF40 1NY
18 Rhagfyr 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.