Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Rheoli Gofal

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 11
£38,296 / £41,496 (Gradd 12) ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol
Amser Llawn Parhaol

Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'u Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau am ddau Weithiwr Cymdeithasol i weithio'n rhan o Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn ei swyddfa yn Nhŷ-elái. Mae'r garfan yn gweithio ledled ardal gyfan Rhondda Cynon Taf ac mae'n manteisio ar ddulliau gweithio hyblyg.

Rydyn ni'n garfan sy'n gweithio gydag unigolion a'u cynhalwyr (gofalwyr) yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) am hyd at ddeuddeg wythnos. A hwythau'n rhan o'r Gwasanaethau Tymor Byr ehangach, gan gynnwys y gwasanaethau ailalluogi a Chymorth Gartref, mae staff yn y Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr ar draws y Gwasanaethau Tymor Byr i wireddu deilliannau er gwell i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a'u teuluoedd/cynhalwyr, yn ogystal â chydbwyso risg ag annibyniaeth a dewis yr unigolion. Mae disgwyl, felly, i Weithwyr Cymdeithasol yn y garfan yma chwarae rhan weithredol. Byddan nhw hefyd yn gallu adnabod y cyfoeth o brofiad sydd ar gael iddyn nhw, a manteisio ar hynny, yn y Gwasanaethau Tymor Byr. Rydyn ni'n chwilio am Weithwyr Cymdeithasol sy'n meddu ar frwdfrydedd, gwerthoedd cadarn, medrau cyfathrebu rhagorol, ac sydd hefyd yn rhoi'r unigolyn yn ganolbwynt wrth iddyn nhw weithio gydag unigolion.

Bydd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am ddeddfwriaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bydd angen iddo ddangos ymrwymiad cadarn i ddatblygiad proffesiynol parhaus, e.e. cyflawni cymhwyster wedi'i argymell gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd gofyn iddyn nhw hefyd ddangos y sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol. 

Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.  

O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

O'ch penodi, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd rhaid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.

Am ragor o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Christine Rogers (Rheolwr y Garfan) ar 07812122206 neu Alexandra Bayliss (Blaen Weithiwr Cymdeithasol) ar 07384910475.

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau gweithio hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
  • Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
  • Cynllun buddion i staff
  • Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

 

37
Ty Elai
Dinas Isaf Industrial Estate
Williamstown
CF40 1NY
19 Rhagfyr 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.