Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Achlysurol - Byw â Chymorth

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 5
£11.81 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â'n carfan o weithwyr gofal cymdeithasol achlysurol er mwyn bod yn gefn i unigolion sydd ag anableddau dysgu i feithrin medrau ar gyfer byw bywydau annibynnol.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys Gwasanaethau Byw gyda Chymorth, ledled Rhondda Cynon Taf, felly bydd angen i chi weithio'n hyblyg ac yn arloesol i gwrdd ag anghenion defnyddwyr y gwasanaeth a chyfrannu at ddatblygiad y Gwasanaeth Byw yn y Gymuned.

Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus arfer eu profiadau bywyd nhw'u hunain yn rhan o'u swyddogaethau. Byddwch chi'n dilyn rhaglen i'ch sefydlu yn y swydd ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol.

Er mwyn ymuno â'n carfan ymroddedig a phroffesiynol, byddwch wedi cael neu wedi dangos ymrwymiad i weithio tuag at y cymhwyster gofal (QCF lefel 2) a chewch eich cefnogi i gofrestru fel gweithiwr gofal proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am weithio’n rhan o sector sy'n gwobrwyo, ewch i www.wecare.cymru

Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau, gan gynnwys nosweithiau, dros nos, penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Mae dyletswyddau ‘cysgu –dros-nos’ hefyd yn rhan o'r patrwm gwaith a bydd taliadau ychwanegol ar ei gyfer y sifftiau yma.

Oherwydd gofynion Deddf Safonau Gofal 2000, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Mae'n hanfodol bod trwydded yrru lawn gyda chi gan efallai bydd angen i chi gludo defnyddwyr gwasanaeth yn eu cerbydau symudedd nhw.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Charlotte Jones, Arweinydd y Garfan Beripatetig ar 07824496351.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Yn ôl y galw
Rhondda
Cynon
Taf
CF41 7NW
24 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.