Gweld swydd wag -- Swyddog Asesu Cymwysterau Galwedigaethol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Datblygu a Thrawsnewid Gwasanaethau i Oedolion
Gradd 8
£29,439
Amser Llawn Parhaol

Aseswr / Cydlynydd Cymwysterau Galwedigaethol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae gyda' garfan FfCCh swydd wag ar gyfer Aseswr. Bydd y swydd yn golygu gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dyma brif ddyletswyddau'r swydd:

Cyfrifoldeb y Swyddog Asesu ydy rhoi cymorth i staff gyda'u cymhwyster drwy wneud y canlynol:

  • Darparu gwybodaeth gefndir ar destunau sy'n rhan o'r cymhwyster
  • Dod i farn ynglŷn â dealltwriaeth y staff o gyfrifoldebau'u swydd a'u hymarfer yn eu hamgylchedd gwaith nhw eu hunain
  • Cynorthwyo staff i roi portffolio tystiolaeth at ei gilydd sy'n dangos sut maen nhw'n ymgymryd â'u dyletswyddau yn unol â'r safonau sydd i'w disgwyl o fewn y cymhwyster.
  • Gweithio'n agos ag aelodau'r garfan i rannu gwybodaeth a sgiliau i gefnogi gofynion yr uned

Bydd deiliad y swydd yn gefn i staff drwy'r broses ymsefydlu ar gyfer cymwysterau lefelau 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ar gyfer DPP.

O'ch penodi i'r swydd, bydd gyda chi agwedd hyblyg tuag at weithio gyda staff. Bydd ef/hi'n yn effro i'r sifftiau mae staff yn gweithio ac efallai bydd angen gweithio y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar brydiau, i gynnal asesiadau o'r gwaith. O ganlyniad, bydd deiliad y swydd yn cael ei gyflogi ar gontract hyblyg a fydd yn galluogi'r tîm i fynd i'r afael â galw ar y gwasanaeth.

Bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i gynnal eich dyletswyddau'n effeithiol.

Byddwch chi'n dda wrth reoli amser ac yn ymrwymo i weithio tuag at amserlenni targedau.

Bydd deiliad y swydd yn gallu gweithio'n effeithiol mewn grwpiau yn ogystal ag unigolion; bydd hyn yn cynnwys hwyluso sesiynau hyfforddi ar gyfer y rhaglen. Byddwch chi hefyd yn helpu i gyflwyno sesiynau asesu a hyfforddi ar gyfer staff sy'n gweithio gyda'r nos yn ôl yr angen.

Mae'r meini prawf yn benodol iawn ar gyfer y swydd yma. Serch hynny, yn ystod y broses o dynnu rhestr fer a'r broses gyfweld, bydd pwyslais arbennig ar brofiad o feithrin perthnasoedd ar sail ymddiriedaeth; gweithio gydag amrywiaeth o bobl; cefnogi'u datblygiad mewn sawl ffordd.

Er mwyn bod yn aseswr, bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chymhwyster aseswr. Bydd hefyd angen arnoch chi brofiad o weithio mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Os byddwch chi'n llwyddiannus bydd angen i chi gytuno i gwblhau'r cymhwyster aseswr (TAQA) cyn pen 12 mis o gael eich cyflogi.

Am wybodaeth fanwl a gofynion penodol, darllenwch y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person.

Ystyrir y Ganolfan Asesu yn ganolfan o arbenigedd ac mae'n aml yn cael adolygiadau sicrhau ansawdd ardderchog.  Mae amser ar gael i sicrhau bod asesiadau a phrosesau sicrwydd ansawdd yn gadarn, gyda'r Swyddogion Asesu yn derbyn cymorth i fynychu cyfarfodydd safoni cyson. Mae'r berthynas rhwng y Swyddog Mewnol ar gyfer Asesu Safonau a'r Swyddog Asesu yn hanfodol i gyflawniad llwyddiannus y cymwysterau. Bydd y Swyddog Asesu yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Asesu Safonau i sefydlu'r safon o waith sydd ei hangen gan staff sy'n ymgymryd â chymwysterau.

Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn rhan o Wasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf. Mae'n rhoi cymorth i'w staff i ddysgu a datblygu sgiliau, a hynny o'u cyfnod sefydlu hyd at eu cyfnod yn rheoli gwasanaethau.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sefydliad mawr ac mae'n cynnig cyfle i ddatblygu gyrfa. Mae Cynllun Oriau Hyblyg ar waith yn rhan o delerau gwaith y swydd yma. Fe gewch chi, hefyd, eich ad-dalu am gostau teithio sy’n deillio o’ch dyletswyddau.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Jillian Davies ar 07932 540737 neu'r Blaen Aseswyr Ansawdd Mewnol Paul Aubrey ar 07947 186855, a Dawn Moulden ar 07747 485753.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Rock Grounds
High street
Aberdare
CF44 7AE
17 Mawrth 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.