Gweld swydd wag -- Prentis – Argraffu, Post a Sganio
Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.
Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog wrth ddysgu sgiliau newydd a fydd yn gwella'ch rhagolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol. A chithau'n ymgeisydd llwyddiannus, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi fynychu coleg ar ffurf diwrnod astudio a dangos cymhelliant ac ymroddiad i gyfuno hyfforddiant wrth weithio gydag astudiaethau coleg.
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau fis Medi 2015.
O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, allwn ni ddim derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar lefel 3 neu uwch. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.
Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r canlynol:
16 – 18: £3.79 yr awr
18 – 20: £5.13 yr awr
21 oed neu'n hŷn: £6.50 yr awr
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Ian Griffiths ar (01443) 425562
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.