Gweld swydd wag -- Swyddog Rheoli Post, Deunydd Wedi'i Argraffu a Chofnodion
Dyma gyfle i ymuno â'r Garfan Cymorth Materion Busnes yn Nhŷ Elái.
O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n atebol i Reolwr yr Uned Cymorth Materion Busnes a byddwch chi'n helpu i reoli post, deunydd wedi'i argraffu a chofnodion.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys argraffu, gweithdrefnau gweinyddu a threfnu rheoli cofnodion.
Byddwch chi'n rhagweithiol ac yn gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn. Byddwch chi'n blaenoriaethu eich llwyth gwaith yn effeithiol er mwyn bodloni gofynion a therfynau amser newidiol.
Rhaid bod trwydded yrru lawn gyda chi.
Byddwch chi'n gweithio 37 awr yr wythnos. Bydd y swydd yn Nhŷ Elái, Trewiliam.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Phil John ar (01443) 425555.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.