Gweld swydd wag -- Dadansoddwr Data a Chyflawniad Cenedlaethol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant
Gradd 11
£36,371 pro rata
Amser llawn dros dro

1 swydd 37 awr yr wythnos 

1 swydd 21 awr yr wythnos (Dros Dro)

Ymunwch â'n carfan genedlaethol yma yng Nghonsortiwm Comisiynu Plant Cymru, a elwir hefyd yn 4C, ble rydyn ni'n cefnogi pob un o'r Gwasanaethau i Blant ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda gwasanaethau comisiynu a chontractio strategol ar gyfer plant sy'n agored i niwed ac sydd angen cynllun gofal a chymorth.

Mae dadansoddi data a chyflawniad yn rhan hanfodol o'r cylchred comisiynu. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â'r garfan sydd â'r gallu i goladu, gwirio a dadansoddi data craidd o ystod eang o ffynonellau yn effeithiol. Bydd angen i'r unigolyn hefyd gyflwyno'r dystiolaeth mewn fformatau sy'n hawdd i'w deall ac sy'n cyfleu cipolygon trwy ddelweddau data neu ddangosfyrddau deniadol.

Mae meddu ar radd mewn Mathemateg, Ystadegaeth neu gymhwyster cyfwerth yn hanfodol, yn ogystal â gwybodaeth am becynnau data cyfredol, gan gynnwys Microsoft Power BI. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos â Data Cymru ar ddatblygiad ac ymarferoldeb yr Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR) a bydd yn defnyddio adnoddau dadansoddi data i roi cipolygon a gwybodaeth am y farchnad.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch 4c@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch Helen: (01443) 570098.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37 awr a 21 awr
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
19 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.