Gweld swydd wag -- Peiriannydd Goleuadau Stryd

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 10
£32,798
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni am benodi Peiriannydd a fydd yn ymuno â'r garfan Goleuadau Stryd a Signalau Traffig brysur yn rhan o Adran Rheoli Asedau Isadeiledd, Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus helpu i ddarparu Gwasanaeth Isadeiledd y Priffyrdd o safon uchel. Bydd dyletswyddau a phrif swyddogaethau'r swydd yn cynnwys;

  1. Bod yn gyfrifol am gynnal a rheoli asedau goleuadau stryd sy'n eiddo i'r Cyngor o ddydd i ddydd.
  2. Cyfrannu at reoli a monitro cyllidebau goleuadau stryd.
  3. Cyfrannu at waith datblygu, cydlynu a gweithredu rhaglenni goleuadau stryd.
  4. Sicrhau bod cwynion, ymholiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu hymateb iddyn nhw yn effeithiol ac yn effeithlon.
  5. Sicrhau bod prosiectau yn cael eu cyflawni yn unol ag amser, cyllideb a gofynion y prosiect, yn ogystal â rheoli cynnydd prosiectau drwy bob cam rhagarweiniol, cynllunio ac adeiladu yn llwyddiannus.

Mae meddu ar gymhwyster peirianneg perthnasol (neu dystiolaeth o weithio tuag at un), e.e. Tystysgrif Genedlaethol Uwch, yn hanfodol.

Mae meddu ar wybodaeth am isadeiledd y priffyrdd a phroblemau goleuadau stryd yn hanfodol.

Mae meddu ar wybodaeth TGCh yn hanfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn unol â pholisi gweithio hybrid ac yn rhannu amser rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru ddilys er mwyn gyrru ledled yr awdurdod i ymchwilio i ddiffygion a chwynion a mynd i gyfarfodydd.

Oriau'r contract fydd 37 awr.

Am ragor o wybodaeth ar gyfer y swydd yma, cysylltwch ag Andrew Phipps, Rheolwr Goleuadau Stryd a Signalau Traffig drwy ffonio 07385 406150.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
20 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.