Gweld swydd wag -- Therapydd Galwedigaethol (Ailalluogi)

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 11
£36,371 (yn ogystal ag atodiad y farchnad o £3,200 y flwyddyn sy'n ddarostynedig i adolygiad)
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n chwilio am Therapydd Galwedigaethol i weithio'n barhaol gyda'r Gwasanaeth Cymorth Cartref (Carfan Gofal Canolraddol ac Ailalluogi).

Byddwch chi'n rhan o garfan Cymorth Gartref. Mae'r garfan, wedi'i lleoli yn Nhŷ Elái, yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth wella o'u salwch ac atal cyfnodau o ddirywiad iechyd eraill lle mae'n bosibl.

Mae'r garfan ailalluogi yn cynnig cyfnod adferiad i ddefnyddwyr y gwasanaeth er mwyn eu galluogi nhw i gynnal sgiliau byw sylfaenol, i'w hadennill neu i'w hail ddysgu. Mae'n rhoi cymorth i bobl gyflawni eu llawn botensial ac i atal neu leihau'r angen i ddefnyddio ein gwasanaethau yn y gymuned dros dymor hirach.

Mae'r garfan yn rhoi cymorth i unigolion sy'n byw yn y gymuned i fod mor annibynnol â phosibl trwy ddefnyddio rhaglenni sy'n para hyd at 6 wythnos.

Mae'r gwasanaeth yn elwa ar ystod o gymorth proffesiynol gan gynnwys Staff Gofal, Goruchwylwyr, Staff Gweinyddol, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol a Chynorthwy-wyr Ymarferwyr Therapi. Caiff y garfan gymorth gan Arweinydd y Garfan Ailalluogi

Byddwch chi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig sydd â phrofiad o oruchwylio staff neu fyfyrwyr. Bydd gennych chi brofiad mewn lleoliad cymunedol a thystiolaeth o'r profiad hwnnw. Byddwn ni'n ystyried ymgeiswyr sy wedi cael profiad yn y gymuned yn rhan o'u hyfforddiant neu brofiad gwaith. O'ch penodi, byddwch chi'n gyfrifol am lwyth gwaith, byddwch chi'n goruchwylio aelodau dynodedig o'r garfan a byddwch chi'n rhoi cymorth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich goruchwylio, a chewch gymorth, gan Arweinydd y Garfan. Bydd cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd DPP yn cael eu cynnig er mwyn meithrin sgiliau a chymwyseddau ac i gynorthwyo wrth weithredu newidiadau i arfer a darpariaeth y gwasanaeth.

Bydd rhai gofynion achlysurol i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, gan gynnwys gwyliau banc. 

Croesawn geisiadau gan bobl sydd â diddordeb. Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, ffoniwch Laura Blinman, Arweinydd Clinigol ar 01443 444650, neu Su Lambert, Rheolwr Cymorth Gartref ar 01443 425659.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF401NY
24 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.