Gweld swydd wag -- Technegydd Cerbydau

Arall
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 9
£30,095
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n dymuno penodi Technegydd Cerbydau (Mecanig/Gosodwr) yn rhan o garfan Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor.

Bydd y swydd yn ein gweithdy yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest, ac rydyn ni'n chwilio am dechnegwyr dibynadwy, brwdfrydig, gweithgar a phrofiadol i weithio ar ein fflyd o gerbydau amrywiol – o faniau bach i gerbydau Casglu Gwastraff.

Byddwch chi'n adrodd i'r Gweithiwr Cyfrifol yn y Gweithdy a bydd disgwyl i chi fodloni rheoliadau cyfredol y DVSA wrth gyflawni archwiliadau a gwaith atgyweirio. Byddwch chi'n cyflawni swyddogaeth allweddol yng Nghyngor RhCT wrth gadw ein cerbydau i fynd.

Bydd gofyn i chi weithio 37 awr yr wythnos, ar batrwm gweithio dwy shifft, (gan gynnwys rota ar alwad y byddwch chi'n derbyn codiad cyflog ar ei gyfer). Dyma'r trefniadau cyfredol:

Wythnos 1:     06:00 tan 14:00 ar ddydd Llun i ddydd Iau / 06:00 tan 13:30 ar ddydd Gwener.

Wythnos 2:     13:30 tan 21:30 ar ddydd Llun i ddydd Iau / 11:30 tan 19:00 ar ddydd Gwener.

Manteision allweddol:

  • Lwfans gwyliau hael, (25 diwrnod o wyliau, yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth).
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Taliad rota ar alwad o £206.73 yr wythnos pan fyddwch chi ar alwad.
  • Datblygiad a hyfforddiant proffesiynol parhaus er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ran datblygiadau technolegol cyfredol, deddfwriaeth, rheoliadau, ac ati.
  • Buddion staff, e.e. aelodaeth hamdden am bris gostyngol a gostyngiadau o ran ffonau symudol.
  • Cymorth i gael Trwydded Yrru Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV).
  • Datblygu sgiliau gyda chyrsiau archwilio cerbydau.

Byddwch chi'n gweithio yn adran Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor ein Huwchadran Gwasanaethau Rheng Flaen – Tŷ Glantaf, Uned B23, Heol Ffynnon Taf, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Jonathan Treeby ar 07795 391701.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Glantaf
Unit B23
Taffs Fall Road
CF37 5TT
1 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.