Gweld swydd wag -- Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl
Rydyn ni am benodi Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl i weithio yn ein cartref yn y Beddau. Mae'r cartref yn darparu gofal hir dymor i bobl ifainc rhwng 11 ac 17 oed. Mae'r cartref yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd ag anawsterau ymddygiadol ac emosiynol yn sgil trawma a phrofiadau andwyol o'u plentyndod.
A chithau'n Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl, byddwch chi'n cefnogi ac yn gweithio gyda'r Rheolwr Cofrestredig i oruchwylio datblygiad staff a phobl ifainc, ffurfio a diweddaru cynlluniau personol ac asesiadau risg, cynnal sesiynau goruchwylio a bodloni anghenion hyfforddi ein carfan o staff er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus.
Bydd angen ichi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rheoli amser rhagorol gan bydd disgwyl ichi fynychu cyfarfodydd a pharatoi adroddiadau manwl. Byddwch chi'n gallu gweithio dan bwysau a byddwch chi'n defnyddio dull datrys problemau. Bydd angen ichi flaenoriaethu eich llwyth gwaith chi ac eraill felly bydd angen ichi fod yn unigolyn sydd â chymhelliant. Bydd hefyd rhaid bod gyda chi'r gallu i gymell, cyfarwyddo a dirprwyo eraill yn ôl yr angen.
Bydd y swydd hefyd yn galw am y gallu i ymateb i anghenion gwasanaeth. Mae'n bosib y bydd hyn yn cynnwys newid i batrwm sifftiau a bod ar ddyletswydd.
Gofynion:
QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc)
Neu gymwysterau sydd wedi'u disodli:
Bod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth RISCA a gofal plant
Gwybodaeth am y model adfer wedi trawma ar gyfer gofal
Gwybodaeth am faterion amddiffyn plant
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth, ffoniwch y Rheolwr Cofrestredig, Nicola Howard ar (01443) 202600.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.