Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£24,491 pro rota
Amser Llawn Parhaol

Mae’r Cyngor yn awyddus i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl am 37 awr yr wythnos, i weithio yng Nghartref Cymuned Beddau. Mae'r cartref yn darparu gofal parhaus i 5 o blant ac oedolion ifainc rhwng 11 ac 17 oed sy'n agored i niwed.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda charfan brofiadol sy'n gweithio mewn modd sy’n ystyrlon o ran trawma. Mae’r garfan yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifainc sydd â phrofiadau andwyol o'u plentyndod- profiadau sydd wedi cael effaith ar eu datblygiad a’u hymddygiad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson gwydn, sydd â thystiolaeth o weithio â phlant a phobl ifainc heriol.

Mae cyfrifoldebau penodol y swydd yn cynnwys hyrwyddo lles plant a phobl ifainc drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymwneud â pharatoi a gweithredu Cynlluniau Personol y plant a phobl ifainc, paratoi ar gyfer cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chymryd rhan ynddyn nhw, yn ogystal â pharatoi'r gweithgareddau ymarferol sy'n rhaid eu gwneud er mwyn cynnal a chadw’r cartref.

Mae'r rôl yn cynnwys gweithio shifftiau yn dilyn patrwm dyddiau (7.30am-3.30pm), a phrynhawniau (3pm-11pm). Bydd deiliaid y swydd yn gweithio ar sail rota. Bydd rhaid i ddeiliaid y swydd aros yn y cartref dro nos, ar sail rota, yn ogystal â gweithio ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Byddwn ni'n cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus i gofrestru gyda’r Fframwaith Ymsefydliad Cymru Gyfan, ac i gyflawni Lefel 3 y Wobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Nicola Howard ar (01443) 202600.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

 

37
Beddau Community Home
11 Hill View
Beddau
CF38 2DS
18 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.