Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Oriau Dydd - Swydd Achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Uniongyrchol i Oedolion
Gradd 5
£10.81 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwywyr Gwasanaethau Oriau Dydd i gyflenwi pan fydd staff y Gwasanaethau Oriau Dydd i Oedolion ar wyliau blynyddol neu'n sâl. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflenwi mewn canolfannau oriau dydd ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd dyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo pobl gyda thasgau gofal personol a chynorthwyo'r sefydliad gydag amrywiaeth o weithgareddau i bobl sy'n mynd i'r ganolfan oriau dydd.  Byddwch chi hefyd yn teithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth ar gerbydau'r gwasanaeth sydd wedi'u haddasu'n arbennig, a llenwi gwaith papur perthnasol pan fo angen. Bydd gyda chi sgiliau cyfrifiadur, ysgrifenedig a llafar ardderchog er mwyn cynnal cofnodion a chyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr y gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwch chi'n aeddfed eich agwedd ac yn deall anghenion oedolion. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni o fantais.

O’ch penodi, byddwch chi'n cael cymorth trwy'r Fframwaith Sefydlu – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi'n manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a goruchwyliaeth i wneud eich swydd yn effeithiol.  Bydd raid eich bod chi'n meddu ar gymhwyster Diploma FfCH Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion), neu'n dangos ymrwymiad i weithio tuag at hynny.

 Mae natur y swydd yn golygu y bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol i leoliadau gwaith ledled Rhondda Cynon Taf.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Thomas Boyce, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01443) 425544 neu anfon e-bost i Thomas.Boyce@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cadnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwch, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, mae hon yn hysbyseb barhaus a gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweld yn rheolaidd.

Yn ôl y galw
Trecynon Day Centre
Llewellyn Street
Trecynon
CF44 8HU
14 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.