Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Timau Ymyrraeth Dwys

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£35,745 / £38,890 (Gradd 12) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
Amser Llawn Parhaol

Gweithiwr Cymdeithasol    

Timau Ymyrraeth Dwys - Dwyrain a Gorllewin

Gradd:   Gradd 11 – Gweithiwr Cymdeithasol (Gradd Mynediad) a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae ychwanegiad marchnad o £ 2,000 y flwyddyn yn daladwy i gydnabod gwaith a wneir yn y timau rheng flaen hyn. Mae hyn waeth beth yw hyd y profiad ôl-gymhwyso a bydd yn cael ei adolygu ym mis Mai 2023. Telir y taliad hwn pro rata yn fisol.

Mae'n dda gan Cyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'u Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Mae gan bob un o'n hymarferwyr y cyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu mewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa ar fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.  

Byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n derbyn cefnogaeth i fynychu rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddyn nhw fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid iddyn nhw fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddan nhw wedi'u hymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd ganddyn nhw sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

Byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd rhaid i'r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad gadarnhau a ydyn nhw'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth mewn cyfweliad o'u cofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso.

Am ragor o wybodaeth ac am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Nicola Bowditch neu Julie Evans, Service Managers ar  (01443) 425006.

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Datblygiad Gyrfa Ardderchog
  • Cynllun Pensiwn Ardderchog gyda Chyfraniadau Cyflogwr
  • Cymorth a chyngor Iechyd Galwedigaethol
  • Cynllun Gwobrwyo Staff
  • Gostyngiadau siopa Cerdyn Vectis

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwch, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, mae hon yn hysbyseb barhaus a gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweld yn rheolaidd.

37
East Office / West Office
Ty Trevithick / Tonypandy
Abercynon / Rhondda
CF45 4UQ / CF40 2HH
14 Ebrill 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.