Gweld swydd wag -- Cyfieithydd
Cyfieithydd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi cyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliad y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae hyn yn rhan o amcan y Cyngor i gydymffurfio â safonau statudol Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan annatod ar draws yr holl ystod o wasanaethau'r Cyngor er mwyn hwyluso mentrau corfforaethol cyfrwng Cymraeg. Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd ac achlysuron y mae'r Cyngor yn eu trefnu.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd yn y Gymraeg neu gyfwerth a byddai profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd o fantais.
Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar (01443) 570002.
Oherwydd y nifer sylweddol o ffurflenni cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.