Gweld swydd wag -- Uwch Gyfieithydd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi uwch gyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliaid y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, gyda golwg arbennig ar wasanaethu gofynion Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y Cyngor. Bydd gofyn ymgymryd â gwaith prawf ddarllen yn ogystal ag ymgymryd â dyletswyddau rheoli llinell yn ôl y gofyn.
Bydd gyda chi radd yn y Gymraeg neu gyfwerth ar ben profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol.
Byddwch chi’n gweithio gartref yn bennaf, ond bydd disgwyl i fynd i swyddfeydd a mynychu cyfarfodydd yn ôl y galw.
Mae’r swydd yn cynnig cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, a buddion megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â chanolfannau hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.
Mae disgwyl cynnal cyfweliadau tua 13 Mehefin 2022 (i’w gadarnhau). Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Phennaeth Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar 07824541674.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.
Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.