Gweld swydd wag -- Syrfëwr Grantiau Tai dan Brentisiaeth
Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi ennill cyflog wrth ddysgu sgiliau newydd a fydd yn gwella eich rhagolygon o ran cael swyddi yn y dyfodol. Efallai bydd gofyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus fynychu'r coleg ar ddiwrnodau astudio a dangos ymrwymiad tuag at gyfuno hyfforddiant yn y gwaith ag astudiaethau coleg.
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau fis Medi 2015.
Oherwydd meini prawf cyflwyno cais am brentisiaeth, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi ennill cymhwyster lefel 3 neu'n uwch. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.
Dyma gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol:
16 – 18: £3.79 yr awr
18 – 20: £5.13 yr awr
21 oed neu'n hŷn: £6.50 yr awr
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, cysylltwch ag Anthony Kibble ar (01443) 425745.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.