Gweld swydd wag -- Cyfieithydd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus penodi dau cyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliad y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae hyn yn rhan o amcan y Cyngor i gydymffurfio â safonau statudol Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus chwarae rhan annatod ar draws yr holl ystod o wasanaethau'r Cyngor er mwyn hwyluso mentrau corfforaethol cyfrwng Cymraeg. Rhan hanfodol y swydd yw ymgymryd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd ffurfiol ac achlysuron y mae'r Cyngor yn eu trefnu.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus radd yn y Gymraeg neu gyfwerth a byddai profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd o fantais. Mae medrau TGCh o safon dda a’r gallu i weithio o dan bwysau ac yn ôl amserlenni tynn yn orfodol ar gyfer y swydd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gartref yn bennaf, ond bydd disgwyl i fynd i swyddfeydd a mynychu cyfarfodydd yn ôl y galw.
Mae disgwyl cynnal cyfweliadau tua dechrau mis Medi. Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar 07824541674.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.