Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol - Gwasanaethau Gofal Seibiant

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 5
£22,777 pro rata
Rhan-amser Parhaol

3 x Beech Cottage, Aberdâr (3 x 30 awr yr wythnos)

1 x Teras Belle Vue, Trefforest (1 x 30 awr yr wythnos)

Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i eraill? Rydyn ni'n chwilio am unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Bydd y swydd yn gofyn i chi roi cymorth i unigolion ag anableddau dysgu o fewn Gwasanaeth Gofal Seibiant yn y gymuned.

Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond dydy hyn ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. Bydd cyfnod ymsefydlu trylwyr yn cael ei ddarparu a bydd cymorth parhaus drwy gydol eich cyflogaeth er mwyn sicrhau eich bod chi'n gwneud y gorau o'ch potensial ac yn gweithio hyd eithaf eich gallu. Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster proffesiynol angenrheidiol, neu ddangos y gallu i weithio tuag at hwnnw, a dangos ymrwymiad i'r swydd.

Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau ar sail rota, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i; nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd y swydd hefyd yn gofyn am y gallu i weithio sifftiau nos a chysgu mewn patrymau sifft.

I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi gwag yma, ffoniwch Leah Sullivan, Rheolwr Cofrestredig ar 07384910504 neu anfon e-bost: Leah.n.rees@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

30 awr yr wythnos ar sail rota
Beech Cottage
1-4 Beech Terrace
Aberdare
CF44 6AW
28 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.