Gweld swydd wag -- Hwylusydd Dysgu Ymarfer
Rydyn ni'n chwilio am rywun i weithio'n rhan amser (caiff y swydd ei hadolygu bob blwyddyn ar 31 Mawrth) yng Ngwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf hynod lwyddiannus. O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n ymuno â staff bywiog ar adeg gyffrous, wrth i ni barhau i ddiwallu anghenion ein gweithlu gofal cymdeithasol ar draws y sector statudol, gwirfoddol ac annibynnol.
Ar hyn o bryd mae gyda ni swydd wag ar gyfer Hwylusydd Dysgu Ymarfer. Dyma brif ddyletswyddau'r swydd:
- Hwyluso dysg a datblygiad myfyrwyr sy'n astudio am radd ac MA mewn Gwaith Cymdeithasol trwy ddarparu:
- Asesiad Ymarfer Pellter
- Goruchwyliaeth a mentora
- Gwaith hwyluso dysgu a datblygu mewn grŵp
- Hwyluso grwpiau cymorth a datblygu ar gyfer Aseswyr Ymarfer a myfyrwyr
- Darparu asesiad o'r unigolion sy'n astudio am gymwysterau Asesu Ymarfer
- Cynorthwyo a datblygu cyfleoedd Dysgu Ymarfer presennol a newydd
- Hwyluso'r broses o sefydlu myfyrwyr Lefel 1
Yn ogystal â hyn, bydd disgwyl i chi weithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Dysgu Ymarfer er mwyn rheoli a chydlynu'r swyddogaeth Dysgu Ymarfer ar draws y sector Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Bydd disgwyl i chi weithio gyda chydweithwyr o'r Brifysgol a chynrychioli Rhondda Cynon Taf ar wahanol bwyllgorau rhaglenni Gwaith Cymdeithasol lleol a rhanbarthol. Bydd disgwyl ichi hefyd hyrwyddo dysgu ymarfer i sefydliadau, carfanau, prosiectau, grwpiau ac unigolion, gan eu cynorthwyo i ymgysylltu'n llawn â'r swyddogaeth Dysgu Ymarfer. Bydd hefyd ddisgwyl i chi fod â'r wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â datblygiadau cyfredol mewn hyfforddiant cymwys, a chymryd cyfrifoldeb dros eich dysg eich hun yn unol â swyddogaethau a chyfrifoldebau'r swydd.
Mae hyn yn gyfnod diddorol ar gyfer y swydd yma. Gyda'r proffesiwn Gwaith Cymdeithasol o dan bwysau enfawr o bob cyfeiriad, mae Cyngor RhCT wedi ymrwymo i hyfforddi ein staff ein hunain ac yn cynyddu'r cyfleoedd i staff mewnol fanteisio ar radd Gwaith Cymdeithasol. Mae'n rôl hollbwysig, sy'n annog datblygiad safonau ymarfer uchel ymhlith eraill. Mae hyn yn hanfodol wrth weithio gyda phobl sy'n agored i niwed. Felly, mae angen ichi fod yn frwdfrydig dros y swydd yma, a fydd yn gadarnhaol ac yn greadigol, gan ddod â syniadau gwahanol ynglŷn â sut i symud pethau yn eu blaenau.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys gydag o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso. Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn meddu ar gymhwyster Addysgu Ymarfer, gyda phrofiad uniongyrchol o ddarparu asesiadau ymarfer o fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Lindsey Haggar ar 07769164636 neu Kath McMullen ar (01443) 281444.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.