Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Hamdden Achlysurol – Lefel 1 (Pob Canolfan)
Rydyn ni am benodi nifer o Gynorthwywyr Hamdden Achlysurol - Lefel 1 i weithio mewn canolfannau hamdden ledled RhCT. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio oriau hyblyg ac i fod yn barod i weithio'n fyr rhybudd mewn canolfannau amrywiol, er mae modd i ymgeiswyr ddewis pa ganolfan fyddai orau iddyn nhw.
Byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Hamdden a byddwch chi'n gyfrifol am helpu i ddarparu gweithgareddau hamdden a goruchwylio'r cyhoedd yn ein cyfleusterau hamdden.
Bydd y swydd, yn bennaf, yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth ardderchog i bob ymwelydd a sicrhau bod yr holl weithgareddau'n cael eu paratoi a'u cynnal i'r safon uchaf o ran glendid a pharodrwydd. Byddwch chi hefyd yn cydymffurfio â gweithdrefnau'r ganolfan er mwyn gweithredu'n ddiogel. Os ydych chi’n cael eich penodi i weithio mewn canolfan hamdden sydd â phwll nofio, bydd rhan fawr o’r rôl yn cynnwys goruchwylio’r pwll, ac mae meddu ar gymhwyster perthnasol megis Cwrs Achub Bywyd yn hanfodol.. Bydd gofyn i chi hefyd osod offer a'i roi i gadw yn ddiogel mewn amgylchedd prysur.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r cyfle yma, ffoniwch Gary Dalton ar (01443) 224616.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.