Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl - Cartref Preswyl i Blant Tŷ Brynna

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£26,845 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?

Ydych chi'n unigolyn gweithgar a gwydn sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?

Dyma gyfle i benodi Ymarferydd Gofal Preswyl Plant rhan amser i'n cartref plant ar leoliad unigol ym Mhont-y-clun, RhCT.  Byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy’n darparu cartref diogel, meithringar i unigolyn ifanc, dan arweiniad a chefnogaeth y Rheolwr Cofrestredig, ac uwch staff profiadol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Byddwch chi'n darparu gofal a chymorth i unigolyn ifanc, a bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma. Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau gan weithio tuag at wella a meithrin gwytnwch fel bod modd cyflawni eu nodau personol.

Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu  cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatâu i unigolion gyflawni eu potensial llawn. Weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol, bydd gofyn i chi ymateb i broblemau tu hwnt i'r cartref. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

 Bydd hyn yn cynnwys gweithio â theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Agwedd gadarnhaol a gwytnwch
  • Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
  • Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
  • Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu personol
  • Y gallu i weithio'n hyblyg - Bydd patrymau gwaith yn cynnwys gweithio yn ystod y dydd, yn y prynhawn a gyda'r nos yn achlysurol, yn ogystal â gweithio ar benwythnosau, gwyliau'r banc a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn.

Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at Ddiploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.

Ein Cynnig i Chi

Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu mewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster berthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.

Bydd modd i weithwyr Cyngor RhCT hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
  • Cerdyn gostyngiad i staff – Cerdyn Vectis
  • Cynllun Prynu Technoleg
  • Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.

Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa yn RhCT. https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/JobsandTraining/Jobs/SocialCareandSocialWork/WorkingwithChildrenFamilies/RhonddaCynonTafChildrensServices.aspx

Am ragor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, llenwch ein ffurflen ymholiadau - swyddi gwag Gwasanaethau i Blant.

https://porthigwsmeriaid.rctcbc.gov.uk/FfurflenCysylltuArGwasanaethauIBlant

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.  Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

18.5
Ty Brynna
30 Gellifedi Rise
Brynna
CF72 9PX
9 Ionawr 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.