Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Gofal Plant - Preswyl

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£24,920 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Rydyn ni'n awyddus i gyflogi Gweithiwr Cymorth Gofal Plant - Preswyl i weithio'n rhan-amser yng Nghartref Seibiant Byr Nant-gwyn yn Aberdâr.

1 x swydd 21 awr

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phlant bregus ag anghenion ychwanegol trwy ddarparu cefnogaeth i gynnal trefn arferol mewn amgylchedd meithringar, a chynorthwyo pobl ifainc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn y gymuned leol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i'r Rheolwr Cofrestredig am drefniadau cynllun gofal y person ifanc o ddydd i ddydd.

  • Cyfrannu'n gadarnhaol at ddarparu gwasanaeth o safon.
  • Gweithio'n rhan o garfan.
  • Bod yn gyfrifol am ofal personol
  • Bod yn frwdfrydig, gofalgar, cyfeillgar a dymunol a chanolbwyntio ar y plentyn. 
  • Bod yn gyfrifol am eich datblygiad a'ch dysgu eich hunan.

 Mae cyfrifoldebau penodol y swydd yn cynnwys;

  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd cynllunio ac adolygu a chyfrannu atyn nhw.
  • Gweithio gydag asiantaethau amrywiol
  • Bod yn rhan o'r gweithgareddau ymarferol sy'n angenrheidiol i gynnal a chadw'r cartref, fel coginio, glanhau a'r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â rhedeg cartref.
  • Hyrwyddo lles preswylwyr drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol.
  • Bydd gofyn ichi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd rhaid gweithio rhywfaint o waith sifft, gan gynnwys penwythnosau a dyletswyddau dros nos. 

Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar (neu fod yn barod i ddilyn cwrs) cymhwyster NVQ/QCF Lefel 3, Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) ac yna gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan.

Hoffech chi ragor o wybodaeth? Ffoniwch Charlotte Ajax-Treherne, Rheolwr Cofrestredig, ar (01685) 871687.

BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Ni fydd gwneud cais yn Gymraeg yn arwain at oedi. Rhowch wybod inni beth yw'ch dewis iaith e.e. Cymraeg neu'n ddwyieithog.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

21 awr yr wythnos
Nantgwyn Short Break Residential
6 Nantgwyn
Cwmdare
CF44 8TB
8 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.