Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol (Iechyd a Lles yn y Gymuned)

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 11
£35,745 ynghyd â thaliad atodol ar sail y farchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf yn y swydd. Bydd £1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer blwyddyn 3. Bydd y taliad yma yn cael ei dalu ar sail pro rata bob mis.
Amser Llawn Parhaol

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Carfanau Iechyd a Lles yn y Gymuned sy’n arwain ar ddatblygu’r uwch glystyrau cymunedol mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae'r swyddi'n cael eu datblygu yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am arian Grant Trawsnewid, gan adeiladu ar gynlluniau arloesol amrywiol fel y model 'ward rithwir' a gafodd ei ddatblygu ym meddygfa teulu St Johns' yng Nghwm Cynon. Ar hyn o bryd mae gyda ni ddwy swydd wag ar gyfer clystyrau Cwm Rhondda a Chwm Cynon.

Mae gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled y wlad yn wynebu cyfnod o bwysau digynsail, ac mae angen i wasanaethau newid i ateb y galw yma. Mae RhCT yn awyddus i archwilio buddion integreiddio'r holl wasanaethau yn y gymuned yn agosach a'r cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig o ran rhagweld pa ofal fydd ei angen, cynlluniau wrth gefn a gwasanaethau a chymorth ataliol.

Mae pwyslais ar waith amlasiantaeth a byddwch chi'n rhan o garfan amlasiantaeth yn ogystal â bod â chysylltiadau agos â'r heddlu a swyddogion tai. Bydd disgwyl i chi ddeall a glynu at bolisïau diogelu a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Byddai dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

O'ch penodi, bydd gyda chi sgiliau llafar ac ysgrifenedig da, a gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, a bydd angen ichi allu'ch cymell eich hun a blaenoriaethu llwyth gwaith. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi fod yn greadigol a chael cred gadarn mewn rhoi annibyniaeth i oedolion.

O'u penodi, bydd y gweithwyr cymdeithasol yn cael eu rheoli a'u goruchwylio trwy'r carfanau Gofal a Chymorth hirdymor. Byddwch chi'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn gweithio mewn partneriaeth â chlinigwyr gofal sylfaenol a chymunedol mewn 'clystyrau' amlddisgyblaethol, gan sicrhau bod cymaint o ofal yn cael ei ddarparu mor agos i'r cartref â phosibl.

Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant achrededig sy'n berthnasol i'r swydd. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd bob chwe wythnos, ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cymheiriaid mewn grŵp. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac mae cynllun buddion staff ar gael.

Bydd gyda chi gymhwyster mewn gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ac wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn dilyn cael eich penodi.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swyddi yma, ffoniwch Rachel Thorne neu Karl Thomas ar (01443) 425003.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai / Cynon Principal Office
Dinas isaf East / Llewellyn Street
Williamstown - Trecynon
CF40 1NY / CF44 8HU
10 Mai 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.