Gweld swydd wag -- Nyrs Glinigol Arweiniol – Iechyd Galwedigaethol
Mae carfan Iechyd Galwedigaethol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn adnodd amlddisgyblaeth sy'n cynnwys Nyrsys Iechyd Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion Iechyd Galwedigaethol, Cwnselwyr, Technegydd Iechyd Galwedigaethol, a chymorth gweinyddol. Mae'r garfan yn chwarae rhan hanfodol yn iechyd a lles ein gweithwyr, gan ddarparu asesiadau arbenigol ac ymyriadau cefnogol.
Gan weithio gyda'n partneriaid, rheolwyr a gweithwyr, rydyn ni'n falch o ddarparu gwasanaeth rhagorol a blaengar. Rydyn ni'n cydweithio i sicrhau bod aelodau'r garfan yn llwyddo yn eu swyddi ac i ddatblygu iechyd a lles ein gweithlu.
Dyma gyfle gwych i rywun sy'n angerddol dros hyrwyddo iechyd unigolion wrth eu gwaith.
Bydd y Nyrs Glinigol Arweiniol yn cynorthwyo'r Rheolwr Iechyd Galwedigaethol i gydlynu, datblygu a rheoli'r gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles yn effeithiol. Rheoli a chynorthwyo'r garfan glinigol mewn modd effeithiol er mwyn sicrhau bod y garfan yn cyflawni ei deilliannau. Defnyddio ei sgiliau clinigol i asesu a chefnogi gweithwyr trwy'r Daith Iechyd Galwedigaethol.
Mae Rhondda Cynon Taf yn gyflogwr cyfeillgar, cefnogol a chreadigol ac mae'n cynnig telerau ac amodau hael gan gynnwys buddion a gostyngiadau staff. Mae staff yn cael eu cynorthwyo trwy ystod o ymyriadau lles, gan gynnwys ein menter lles staff ddiweddar Wellbeing with Cari, system gyfrinachol sy'n darparu asesiad a chymorth.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnig apwyntiadau rhithwir yn ogystal â rhai wyneb yn wyneb yn yr Uned Iechyd Galwedigaethol a Lles ym Mhontypridd.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r garfan Iechyd Galwedigaethol ar 07734905654.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.