Gweld swydd wag -- Cydlynydd Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu (TALP)

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Consortiwm Canolbarth y De y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Gradd 8
£27,514
Dros dro - tymor ysgol yn unig

Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd

GRYMUSO YSGOLION I WELLA DEILLIANNAU AR GYFER POB DYSGWR. 

Cydlynydd Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu (TALP)

Secondiadau amser llawn hyd at 31 Awst 2024, i ddechrau 7 Tachwedd 2022 (neu’n gynt os yn bosib).  Cynigir tâl ar gyflog cyfredol (Mwyafswm £27,514 pro rata: tymor yn unig)

Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD), sy'n cynnwys pum Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni trefniadau uchelgeisiol ar gyfer gwella ysgolion trwy Her Canolbarth De Cymru. Ar y cyd â’n hysgolion, rydym yn benderfynol y bydd pob plentyn a pherson ifanc ym mhob ysgol yn profi tegwch a rhagoriaeth ac yn gwireddu eu potensial.

Rydym yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu profiadol sydd â statws CALU a all ein helpu ni ddatblygu adnoddau ar gyfer ein holl raglenni a gweithgareddau dysgu proffesiynol a chyflwyno rhaglenni ar sesiynau rhwydwaith i’r CAau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Arweinydd Strategol ar gyfer y Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu (TALP) a’r Arweinydd SA TALP wrth ddatblygu adnoddau a rhaglenni ac yn y broses asesu ar gyfer statws CALU.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn CALUau profiadol sydd wedi profi eu bod yn medru symud dysgu ymlaen, cefnogi athrawon ac arwain CALUau eraill.

Gofynnwch am ganiatâd gan eich Pennaeth cyn ymgeisio ar gyfer y swydd hon.

Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Mandy Esseen am sgwrs anffurfiol: E-bost: mandy.esseen@cscjes.org.uk   

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY’N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A’R CYNGOR 

YN YCHWANEGOL AT Y CYFRIFOLDEB DIOGELU HWN, BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH 

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. 

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. 

37
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
14 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.