Gweld swydd wag -- Swyddog Datblygu ar gyfer Datblygiad y Gymraeg

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Consortiwm Canolbarth y De y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Soulbury
£48,849
Dros dro - tymor ysgol yn unig

Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd 

GRYMUSO YSGOLION I WELLA DEILLIANNAU AR GYFER POB DYSGWR

Swyddog Datblygu ar gyfer Datblygiad y Gymraeg

Secondiad amser llawn i ddechrau 1 Ionawr 2023 tan 31ain Awst 2024

Secondiad ar gyflog presennol hyd at uchafswm o £48,849

Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD), sy'n cynnwys pum Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni trefniadau uchelgeisiol ar gyfer gwella ysgolion trwy Her Canol De Cymru. Ar y cyd â’n hysgolion, rydym yn benderfynol y bydd pob plentyn a pherson ifanc ym mhob ysgol yn profi tegwch a rhagoriaeth ac yn gwireddu eu potensial. 

Rydym yn awyddus i benodi athro talentog a brwdfrydig sydd â phrofiad o arwain y Siarter Iaith Gymraeg yn llwyddiannus ar draws ysgol gyfan. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hon weithio gyda thîm gwella ysgolion CCD, awdurdodau lleol ac ysgolion ar draws y rhanbarth i sicrhau bod CCD yn dod yn lle rhagorol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth ysgolion a chyflawniadau disgyblion gan gefnogi datblygiad system sydd yn gwella ei hun.

Bydd y swydd hon yn cefnogi cydlynu a datblygu strategaeth genedlaethol y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr drwy weithredu’r strategaeth ranbarthol ar gyfer Datblygiad y Gymraeg. Ymhlith y cyfrifoldebau mae cefnogi datblygiad cyfleoedd dysgu proffesiynol (DP) o ansawdd uchel a chefnogaeth bwrpasol i ysgolion. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio ag ymarferwyr, ysgolion a rhan ddeiliaid eraill sy’n ymwneud â’r maes hwn.

Credwn fod hwn yn gyfle datblygu gwych, fel Swyddog Datblygu byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer y Gymraeg.

Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich datblygiad personol a bydd gennych fynediad i gyfleoedd o fewn a thu hwnt i'r rhanbarth i wella eich arfer proffesiynol.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn athrawon rhagorol sydd wedi profi eu bod yn medru arwain y Siarter Iaith Gymraeg yn effeithiol a chodi safonau. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol o flaenoriaethau cenedlaethol, CCD, yr awdurdod lleol ac ysgolion a’r hyn mae’r rhain yn ei olygu ar gyfer datblygu gweithlu addysg o ansawdd uchel.

Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Bethan Davies, Ymgynghorydd Cysylltiol Datblygu’r Gymraeg, am drafodaeth anffurfiol: E-bost: Bethan.Davies2@cscjes.org.uk

Rhaid i ymgeiswyr gael cymeradwyaeth eu Pennaeth neu eu rheolwr llinell cyn gwneud cais am y secondiad hwn.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY’N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A’R CYNGOR 

YN YCHWANEGOL AT Y CYFRIFOLDEB DIOGELU HWN, BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH 

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. 

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. 

37
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
17 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.