Gweld swydd wag -- Warden Gorfodi Gofal y Strydoedd

Gwastraff ac Ailgylchu
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 6
£22,129
Amser Llawn Parhaol

Mae swydd ar gael yn Adran Gorfodi Gofal y Strydoedd ar gyfer Warden Gorfodi Gofal y Strydoedd.

Mae'r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd yn ymchwilio i droseddau amgylcheddol ym Mwrdeistref Rhondda Cynon Taf ac mae modd iddi roi Hysbysiadau Cosb Benodedig neu erlyn troseddwyr yn y Llys. 

Bydd y swydd yn allweddol i helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wneud y gorau o'i gyfraddau ailgylchu, a hynny drwy addysg a gorfodi.

Bydd y prif ddyletswyddau yn ymwneud â delio â materion gwastraff fel bagiau ailgylchu wedi'u llygru, gormod o fagiau du, biniau ar briffyrdd, ac ati. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig i aelodau'r cyhoedd, a hynny mewn sefyllfa wyneb yn wyneb.

Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cymryd rhan yn rhaglen Ymwybyddiaeth y Cyhoedd y Cyngor i hyrwyddo ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff. Bydd gofyn i chi orfodi deddfwriaeth sy'n ymwneud â sbwriel, dympio anghyfreithlon, baeddu cŵn, sbwriel a gweithgareddau gofal y strydoedd eraill fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Yn ogystal â hynny, bydd gofyn i chi fynd i'r Llys i roi tystiolaeth yn ymwneud â'r achosion yma pan fydd angen.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

DOES DIM ANGEN I YMGEISWYR BLAENOROL Y SWYDD YMA GYFLWYNO CAIS

37
Ty Glantaf
Treforest Ind Est
Pontypridd
CF37 5TT
23 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.