Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Gofal Plant

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 5
£20,043
Amser Llawn Parhaol

Mae Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yn rhan o Wasanaethau Ymyrraeth Ddwys y Dwyrain a'r Gorllewin. Byddwch chi'n rhan o garfan o weithwyr cymdeithasol ac yn gweithio gyda'r gweithwyr yma i gefnogi ac ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd. Mae'r gwaith yma hefyd yn cefnogi cyswllt rhwng plant a'u rhieni.

Does dim gofyn am gymhwyster ffurfiol, fodd bynnag, mae gwybodaeth a phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant a'u teuluoedd yn hanfodol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Plant a Phobl Ifainc Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)) neu'r rhagflaenydd, NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant a Phobl Ifainc neu'r gallu i ennill QCF ymhen dwy flynedd o gael aseswr. 

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Trevithick / Rhondda Principal Office
Abercynon / Berw Road
Mountain Ash / Tonypandy
CF45 4UQ / CF40 2HH
12 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.