Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Allgymorth a Pheripatetig

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£24,920
Amser Llawn Parhaol

Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?

Ydych chi'n unigolyn gweithgar a gwydn sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?

Rydyn ni'n dymuno penodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Allgymorth a Pheripatetig llawn amser i gefnogi lleoliadau gofal plant preswyl ledled RhCT. O'ch penodi, byddwch chi'n gweithio ar draws pum cartref gofal plant preswyl, a bydd gyda chi'r cyfle i gymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth eang o waith i gefnogi plant a phobl ifainc unigol, ac amgylcheddau byw mewn grŵp. Bydd gofyn ichi deithio'n annibynnol ar gyfer y swydd yma o ystyried ble mae ein cartrefi preswyl.

 A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl – Allgymorth a Pheripatetig, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartrefi diogel a chefnogol i blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwyr Cofrestredig ac uwch aelodau staff profiadol.

Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Byddwch chi'n darparu gofal a chymorth, a bydd gofyn i chi weithio mewn modd creadigol, gan ymgymryd â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma. Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin gwytnwch i gyflawni nodau personol.

Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Agwedd gadarnhaol a gwytnwch
  • Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
  • Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
  • Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
  • Y gallu i weithio'n hyblyg – bydd y patrwm gwaith yn cynnwys gweithio ar brynhawniau a nosweithiau o dro i dro yn ogystal â phenwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau dros nos

Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at Ddiploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu mewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Bydd modd i weithwyr Cyngor RhCT hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth angenrheidiol wedi'i ariannu'n llawn i ymgymryd â'r rôl, yn ogystal â chymorth proffesiynol mewnol
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
  • Cerdyn gostyngiad i staff – Cerdyn Vectis
  • Cynllun Prynu Technoleg

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Bryndar Community Home
Cherry Drive
Cwmdare
CF44 8RJ
11 Tachwedd 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.