Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth - Taith Bywyd

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 5
£20,852
Amser Llawn Parhaol

Chwilio am her newydd? Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda ni yn weithwyr cymorth yn rhan o'n carfan Taith Bywyd yma yn Rhondda Cynon Taf. Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda gweithwyr cymdeithasol i blant er mwyn darparu gwaith taith bywyd i blant a phobl ifainc sy'n cael eu mabwysiadu.

Byddwch chi'n gweithio â phlant, teuluoedd biolegol, rhieni maeth, mabwysiadwyr a gweithwyr y Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael i blant allu deall eu taith bywyd cyn iddyn nhw gael eu mabwysiadu.  Byddwch hefyd yn cyd-weithio'n agos gyda'r cydlynydd rhanbarthol i sicrhau arfer da wrth gwblhau llyfrau taith bywyd unigol a datblygu adnoddau i eraill eu defnyddio ar hyd y rhanbarth. Byddwch chi'n cael eich goruchwylio'n gyson ac yn cael cymorth gan y Blaen Weithiwr Cymdeithasol - Mabwysiadu yn RhCT.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs am y swydd, ffoniwch Laura Betts, Blaen Weithiwr Cymdeithasol - Mabwysiadu, ar (01443) 744044.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
19 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.