Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Plant Peripatetig – swydd wedi'i hariannu'n allanol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 4
£19,650 pro rata
Rhan-amser Dros dro - tymor ysgol yn unig

17.5 AWR YR WYTHNOS, GWAITH PERIPATETIG YN YSTOD TYMOR YR YSGOL YN UNIG; LLEOLIADAU AMAN, PONTYPRIDD, TYLORSTOWN, PEN-RHYS  

Mae cyfle cyffrous ar gael ar gyfer swydd Gweithiwr Gofal Plant Peripatetig sydd wedi'i hariannu hyd at 31 Mawrth 2023.

Dyma gyfle gwych i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau wrth i chi helpu'r Goruchwyliwr Gofal Plant i gynllunio a darparu amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel er mwyn sicrhau deilliannau cadarnhaol i'r plant sy'n mynychu'r lleoliadau. Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac amrywiaeth gynhwysfawr o weithgareddau ysgogol a chreadigol, er enghraifft celf a chrefft, adrodd straeon, adeiladu ffau, chwarae corfforol a threfnu teithiau a gwibdeithiau sy'n briodol i anghenion a diddordebau'r plant sydd dan ofal y gwasanaeth.

Byddai disgwyl i chi weithio'n agos gyda'r Goruchwylwyr a bod yn aelod o'r Garfan Cyflawni Gofal Plant, gan gyfrannu at ddysgu a datblygiad plant mewn amgylchedd diogel a chynhwysol o fewn gwasanaeth gofal plant cofrestredig.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Natasha Berry, Rheolwr Cyflawni Gofal Plant ar 07795391730.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

17.5 awr yr wythnos – yn ystod tymor yr ysgol yn unig
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
10 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.