Gweld swydd wag -- Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Iechyd yr amgylchedd
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 11
£36,371
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n dymuno penodi Swyddog Iechyd yr Amgylchedd brwdfrydig a chymwysedig i ymuno â'n carfan gan weithio gyda'r sector bwyd yn benodol.

Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd mewn Iechyd yr Amgylchedd neu gyfwerth.  Wedi cofrestru â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu ar gofrestr bwrdd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd. Os nad ydy'r ymgeisydd wedi cofrestru, mae'n ofynnol i'r person ymgymryd â'r llwybr priodol i fod yn swyddog Iechyd yr Amgylchedd sydd wedi'i gofrestru'n broffesiynol gan y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd o fewn 18 mis o gyflogaeth.  Mae cymorth i ymwneud â chofrestru proffesiynol ar gael.

Mae profiad o arolygu hylendid bwyd ac ymchwilio i glefydau trosglwyddadwy yn ddymunol. Mae'r profiad o fod wedi cau busnesau bwyd yn ddymunol.

Byddwch chi'n cynnal arolygiadau hylendid bwyd rheolaidd, yn ogystal ag arolygiadau mewn busnesau newydd. Byddwch chi'n ymchwilio i glefydau heintus yn rheolaidd yn ogystal ag ystyried ceisiadau am wasanaeth sy'n dod i law gan aelodau o'r cyhoedd, busnesau bwyd a chynghorwyr/aelodau lleol. Yn ogystal â hyn, bydd gennych eich llwyth gwaith eich hun wrth ddarparu cefnogaeth i staff technegol yn garfan.  

Dyma swydd amser llawn, barhaol gydag Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yn Nhŷ Elái yn Nhrewiliam.  Bydd angen i chi fod yn hyblyg i fodloni gofynion y swydd, a sicrhau bo'r Cyngor yn bodloni'i ddyletswyddau statudol, gan gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio'n hybrid rhwng y cartref a'r swyddfa ond gall hyn newid.

Am sgwrs anffurfiol am y cyfle yma, e-bostiwch: Kelly Snare, Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, christine.k.snare@rctcbc.gov.uk neu Kim Trilloe, Rheolwr Diogelu a Thrwyddedu Iechyd kim.trilloe@rctcbc.gov.uk er mwyn trefnu amser cyfleus i siarad.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37 awr yr wythnos
Ty Elai
Dinas Isaf Industrial Estate
Williamstown , Tonypandy
CF40 1NY
26 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.