Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol - Gofal Ychwanegol (nosweithiau)

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 5
£19,698 pro rata (£10.21 yr awr)
Rhan-amser Parhaol

Y Garfan Gofal Ychwanegol

Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a hunan-ysgogol i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i roi cymorth i unigolion yn ein cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ym Mhontypridd (Cwrt Yr Orsaf).

Byddai profiad o fod yn gefn i bobl o fewn cyd-destun gofal cymdeithasol yn ddymunol ond ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl.  Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd angen eich bod chi'n meddu ar y cymwysterau perthnasol neu'n dangos ymrwymiad i weithio tuag atyn nhw.

Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ystod o sifftiau ar sail rota, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sifftiau gyda'r hwyr, dros nos (ar ddi-hun), penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

33.5 awr yr wythnos ar gyfartaledd ar rota
Cwrt Yr Orsaf
Union Street
Pontypridd
CF37 1SD
20 Medi 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.