Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl - Swydd Achlysurol
Bydd y swydd achlysurol yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio sifftiau ar draws 4 cartref preswyl i blant yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y sifftiau'n cynnwys diwrnodau, prynhawniau, nosweithiau a gweithio ar benwythnosau, pan fydd aelodau eraill o staff yn absennol ac er mwyn cynyddu lefelau staffio yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Bydd y rôl hefyd yn gofyn am gysgu yn y lleoliad yn ôl yr angen.
Wrth weithio gyda charfan rheoli brofiadol a staff, bydd angen i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i weithio gyda phlant a phobl ifainc, a allai fod wedi cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn greadigol, hyblyg ac arloesol wrth ddarparu gofal a chefnogaeth o ddydd i ddydd, a bydd disgwyl iddyn nhw ymgymryd â hyfforddiant penodol i sicrhau gwell ddeilliannau i blant.
Bydd y rôl yn cynnwys lefel uchel o ymgysylltiad gweithredol â phlant a phobl ifainc, a dylai ymgeiswyr fod yn effro i'r gofyniad i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau a gwaith uniongyrchol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac ymgymryd â Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) cyn pen 2 flynedd ar ôl cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Y modd i deithio'n annibynnol yn unol â gofynion y swydd.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Mandy Meredith ar 07880044429.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.