Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth yn y Cartref

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 5
£19,698 pro rata - £10.21 yr awr
Rhan-amser Parhaol

“Rhannwch ein Gwerthoedd ... Rhannwch ein Gofal”

GWASANAETH CYMORTH YN Y CARTREF RHONDDA CYNON TAF

Gweithiwr Cymorth yn y Cartref, 25 awr yr wythnos (ar rota bloc)

GR5 £10.21 yr awr

Ydych chi wedi mwynhau cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn eich cymuned yn ystod y cyfnod anodd yma neu a ydych chi wedi darganfod sgiliau wrth ofalu am eraill yn eu cartrefi eu hunain?

Os felly, ac rydych chi'n digwydd bod yn chwilio am swydd newydd mae modd i ni eich helpu chi!

Mae gyda ni gyfleoedd i bobl sy'n rhannu ein gwerthoedd ymuno â'n carfanau presennol o weithwyr gofal, sy'n bobl rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw.

Rydyn ni'n garfan fawr sy'n ehangu ond rydyn ni'n parhau i gynnal ethos cryf o undod ac mae modd i bob aelod o staff fanteisio ar gefnogaeth gan garfan brofiadol a sylweddol o reolwyr, aseswyr a therapyddion proffesiynol er mwyn dysgu am gyfrifoldebau'r rôl, magu hyder a mwynhau gyrfa werth chweil yn y maes gofal.

Mae modd i chi gwrdd â rhai o'r unigolion sy’n rhan o’r garfan yma!

https://www-staging.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/JobsandTraining/SocialCareJDs/SocialCareJobs.aspx

Byddwch chi'n rhoi cymorth i unigolyn er mwyn addasu a theilwra ei becyn cymorth parhaus. Bydd hyn yn golygu rhoi cymorth i amrywiaeth o unigolion sydd ag ystod o anghenion. Bydd angen i chi gymhwyso'r dull mwyaf priodol er mwyn rhoi'r cyfle i'r unigolyn fod mor annibynnol â phosibl. Bydd y cymorth y byddwch chi'n ei roi yn amrywio o ddull galluogi/adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn at symud a thrafod cymhleth a rhoi gofal ymarferol.

Rydyn ni'n cynnig hyn yng nghartref neu leoliad preswyl parhaol yr unigolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n hollbwysig i'w hiechyd a'u lles.

Mae'r gwasanaeth yn weithredol 365 diwrnod y flwyddyn ac mae oriau gweithio yn amrywio rhwng 7.30am a 10.00pm. Byddwch chi'n gweithio yn unol â'r rota staff 3 wythnos a fydd â chyfuniad o sifftiau cynnar neu hwyr o 5 awr. Byddwch chi'n cael gwybod y rota ymlaen llaw.

Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl a all fod yn ymroddedig, yn ddibynadwy ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd, ac sydd â'r gallu i ddefnyddio mentergarwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'r bartneriaeth gref sydd gyda ni gyda'r adran hyfforddiant fewnol ymroddedig yn sicrhau bod cefnogaeth ddysgu yn diwallu anghenion ein gweithwyr yn unigol. Byddwn ni hefyd yn ad-dalu ffioedd cofrestru yn brydlon.

Fel y byddech chi'n disgwyl mae gofal staff yn ganolog i'n gwasanaeth. O'r herwydd rydyn ni'n darparu'r holl Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

Mae Cyngor RhCT hefyd yn darparu Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim sy'n darparu gwasanaeth ffisiotherapi hunan-atgyfeirio yn ogystal â mynediad at gwnsela cyfrinachol pan fydd pethau'n mynd yn anodd ar unigolyn yn bersonol neu'n broffesiynol.

Rhaid bod gyda chi'r modd i deithio'n annibynnol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Am sgwrs anffurfiol neu i ddysgu rhagor am y rôl cyn i chi wneud cais, ffoniwch Hayley Thorne neu Su Lambert, a fydd yn falch o ateb unrhyw gwestiwn sy gyda chi, ar (01443) 425070.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Dydd Gwener 26 Chwefror 2021 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

25 awr yr wythnos
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
22 Medi 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.