Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol - Carfan Ymholi ac Asesu

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£35,745 ynghyd â thaliad atodol ar sail y farchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf o ymarfer. Bydd £1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer blwyddyn 3. Mae taliad pellach o £2,000 y flwyddyn yn daladwy i gydnabod gwaith y garfan rheng flaen yma, waeth beth yw hyd profiad yr unigolyn. Bydd y ddau daliad yma'n cael eu talu ar sail pro rata bob mis.
Amser Llawn Parhaol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gynnig cyfle i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â'r Adran Gwasanaethau i Blant.

Mae gan bob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar y ffordd mae'n gwaith ni'n datblygu. Bydd ganddyn nhw hefyd gefnogaeth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau Strategol a Gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rydyn ni'n ymroi i wireddu uchelgeisiau'r sawl sy'n dilyn llwybr gyrfa Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Ers cryn amser, rydyn ni wedi sefydlu nifer fechan o swyddi Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol ym maes Gwasanaethau i Blant.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae'n Hadran Gwasanaethau i Blant wedi elwa o fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar y gwasanaethau rheng flaen.

Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Plant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddyn nhw fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid iddyn nhw fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddan nhw wedi'u hymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd ganddyn nhw sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

Gweithiwr Cymdeithasol - Timau Ymholi ac Asesu Dwyrain a Gorllewin

A chithau'n Weithiwr Cymdeithasol, byddwch chi'n rheoli llwyth gwaith dynodedig ac er bydd gyda chi waith heriol, cewch chi gymorth gan eich carfan a boddhad yn y swydd. Byddwch chi hefyd yn cael sesiynau goruchwylio anffurfiol a ffurfiol rheolaidd a bydd nifer o gyfleoedd hyfforddi priodol ar gael.

Bydd cyfle i'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol i ddod yn rhan o raglen gymorth Blwyddyn Gyntaf wrth y gwaith. Nod y rhaglen yma ydy pontio'r bwlch rhwng ennill cymhwyster ac ymgyfarwyddo â'r gwaith.

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster cydnabyddedig mewn Gofal Cymdeithasol. Rhaid bod gyda chi ddealltwriaeth glir o oblygiadau'r Ddeddf Plant ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Bydd profiad gyda chi o weithio ym maes gofal plant neu ddiddordeb i wneud hynny. 

Bydd yn ofynnol eich bod chi wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Chyngor Gofal Cymru. 

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol, e-bostiwch Suzanne Jones (Tîm y Gorllewin) - Suzanne.e.jones@rctcbc.gov.uk neu Gemma Griffiths (Tîm y Dwyrain) - Gemma.griffiths@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Rhondda Principle Office
Berw Road
Tonypandy
CF40 2HH
16 Hydref 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.