Gweld swydd wag -- Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarth De Cymru

Polisi ac Ymchwil
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu
Gradd 8
£29,439
Amser llawn dros dro

Mewn cydweithrediad â 160fed Brigâd (Cymru), sicrhaodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gyllid i benodi pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLO) ar gyfer plant y rheiny sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yng Nghymru o fis Medi 2020. Mae'r prosiect yma'n amodol ar gyllid grant, sydd wedi'i sicrhau ar hyn o bryd tan 31 Mawrth 2025.

Wedi'i gynnal gan bedwar awdurdod lleol arweiniol, y mae Rhondda Cynon Taf yn un ohonyn nhw, mae'r Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yn gweithio'n rhanbarthol ac mae pob un ohonyn nhw'n gyfrifol am weithgareddau mewn pump/chwe awdurdod lleol. Bydd Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol y swydd yma yn gyfrifol am awdurdodau lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Yn y rôl yma, bydd y Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yn gweithio ar y cyd â Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru i ddarparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chynllun gwaith, a fydd yn gwreiddio gweithgareddau cynaliadwy mewn ysgolion ac awdurdodau lleol.

Byddwch chi'n gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo adnoddau SSCE Cymru a chefnogi ysgolion i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, gan ganolbwyntio ar wreiddio ymarfer da mewn perthynas â chefnogi plant y rheiny sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog sy'n derbyn addysg.

Eich rôl chi fydd cefnogi ysgolion i ddeall profiadau ac anghenion plant y lluoedd arfog a gwreiddio gweithgareddau a fydd yn sicrhau systemau cymorth cynaliadwy.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a medrus sydd â phrofiad o weithio mewn lleoliad addysg i gefnogi plant a phobl ifainc.  Bydd angen sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol arnoch chi, y gallu i weithio'n effeithiol yn rhan o garfan a bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Christopher Davies, Rheolwr Materion Ymgynghori a Pholisïau Corfforaethol: Christopher.S.Davies@rctcbc.gov.uk   

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod nhw mor ddiogel ag sy'n bosibl. Mae ein gwasanaethau ac ysgolion wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed a bydd yn gweithredu i ddiogelu eu lles, yn ogystal â chydnabod bod plant ac oedolion sy'n agored i niwed â'r hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
The Pavilions
Clydach Vale
Tonypandy
CF40 2XX
17 Ionawr 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.