Gweld swydd wag -- Blaen Weithiwr Cymdeithasol (Gofal a Chymorth i Oedolion)

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 13
£42,614
Amser Llawn Parhaol

Blaen Weithiwr Cymdeithasol                                                              

Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Mae gan ein Carfanau Gofal a Chymorth i Oedolion swydd amser llawn i Flaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'r garfan Gofal a Chymorth (Gorllewin 2). Rydyn ni'n cynnig cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn brwdfrydig a hoffai weithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod yn dioddef o anabledd corfforol, salwch parhaol, anabledd dysgu, cyflwr iechyd meddwl sydd ag anghenion cymhleth ac angen cymorth parhaus, gweithredol gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, bod yn drefnus ac yn gryf eich cymhelliad. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol, a byddwch chi'n credu o ddifrif mewn rhoi annibyniaeth i oedolion. Byddwch chi hefyd yn gallu cydbwyso risg yn erbyn hawl yr unigolion i hunan-benderfyniad.

A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, bydd disgwyl ichi reoli llwyth gwaith a dyletswyddau eraill y swydd yma. Byddwch chi'n allweddol i ddatblygu arfer gorau, felly bydd angen i chi hyrwyddo a darparu arfer proffesiynol o safon uchel yn gyson a bod yn fentor sy'n annog eraill i wneud yr un peth.

Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth reolaidd a broffesiynnol bob chwe wythnos a byddwch chi'n ymwneud â hwyluso goruchwyliaeth mewn grwpiau cyfoedion er mwyn gwella dealltwriaeth a gwybodaeth broffesiynnol. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth reoli'r garfan a bydd disgwyl i chi ddirprwyo ar brydiau ar gyfer Rheolwr y Garfan.

Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd heriol ond cefnogol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid.  O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai. 

Bydd disgwyl i chi ddeall polisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a glynu atyn nhw. Byddai dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais.

Er mai carfan gyffredinol yw hon, mae cyfleoedd i ddatblygu meysydd o arbenigedd yn rhan o'r garfan. Mae cyfleoedd i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael eu hannog ac mae gan y garfan hanes hir o gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant ôl-gymhwyso achrededig. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei gynllun buddion staff.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â chymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol perthnasol, h.y. gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu'i rhagflaenydd cydnabyddedig cyfwerth. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod ar gofrestr Cyngor Gofal Cymru yn Weithiwr Cymdeithasol gyda phrofiad ôl-gymhwyso helaeth, gan gynnwys gweithio ar lefel gweithiwr cymdeithasol profiadol.

Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Georgia Evans, Rheolwr y Garfan ar (01443) 444596.

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
  • Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
  • Cynllun buddion i staff
  • Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Elai
Dinas Isaf Industrial Estate
Williamstown
CF40 1NY
14 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.