Gweld swydd wag -- Meicro-frocer

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 7
£26,845
Amser llawn dros dro

Yn dilyn gwaith datblygu prosiect newydd ac arloesol, mae cyfle cyffrous gyda ni i gynnig rôl newydd yn adran y Gwasanaethau i Oedolion, ar sail dros dro/secondiad am 2 flynedd.

Bydd y Prosiect Meicrofentrau newydd yn darparu opsiynau cymorth hyblyg a chreadigol i unigolion ledled Rhondda Cynon Taf.  Bydd deiliaid y swydd yn gweithio gyda Chatalyddion Cymunedol i sefydlu cysylltiadau rhwng unigolion ac adnoddau lleol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n derbyn pecyn cymorth wedi'i deilwra sy'n darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ac yn sicrhau bod gan yr unigolion reolaeth. 

Rydyn ni'n chwilio am berson brwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol sy'n gallu gweithio gyda phobl broffesiynol, unigolion, eu teuluoedd a'u cynhalwyr di-dâl yn unol â gofynion ac egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig amrywiaeth o gymorth sy'n rhoi'r modd i unigolion gyflawni eu deilliannau, yn unol â'u cynlluniau cymorth a chefnogaeth. Rhaid i'r cymorth fod yn hyblyg a gall gynnwys cynnig gwybodaeth a chyngor neu gynnig cymorth ymarferol mewn perthynas â sefydlu eu trefniadau Meicrofentrau.

Gan fod y Prosiect Meicrofentrau'n newydd yn yr Awdurdod Lleol, bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd feddu ar y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad dulliau newydd a hyrwyddo'r gwasanaeth yn eang.  Bydd hyn yn cynnwys sefydlu perthnasau proffesiynol effeithiol a cheisio cyfleoedd i gydweithio felly bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol. 

Er bydd digonedd o gefnogaeth ar gael, bydd disgwyl i chi weithio mewn modd arloesol ac yn annibynnol. O'ch penodi, bydd gyda chi sgiliau llafar ac ysgrifenedig arbennig, a rhaid meddu ar wybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn gryf eich cymhelliad ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol ac yn ddyfeisgar. Bydd gyda chi gred gadarn mewn rhoi annibyniaeth i oedolion.

Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant. Yn ogystal â hyn, bydd hyfforddiant mwy arbenigol sy'n benodol i'r rôl yn cael ei gynnig yn ogystal â llawer o gymorth gan eich rheolwr. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cymheiriaid mewn grŵp.

Yn ddelfrydol bydd gyda chi brofiad blaenorol o weithio ym maes rheoli gofal neu ofal cymdeithasol yn y Gwasanaethau i Oedolion. Bydd gyda chi wybodaeth a dealltwriaeth o weithio ym maes iechyd / gofal cymdeithasol i oedolion a byddwch chi'n gyfarwydd â holl ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

Os ydych chi o'r farn y gallech chi wneud gwahaniaeth i ofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf a'ch bod chi'n meddu ar y sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd perthnasol i lwyddo yn y rôl, cysylltwch â ni. Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Catherine Silver ar 01443 744055.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Elai
Dinas Isaf Industrial Estate
Tonypandy
CF40 1NY
7 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.