Gweld swydd wag -- Warden Ymwybyddiaeth a Gorfodi

Gwastraff ac Ailgylchu
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 6
£24,054
Amser llawn dros dro

Mae'r Cyngor am benodi Wardeiniaid Ymwybyddiaeth o Ofal y Strydoedd a Materion Gorfodi newydd i weithio ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn cynnal rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth sy'n ymwneud â'n strategaeth rheoli gwastraff. 

Mae'r Cyngor wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau casglu gwastraff bob 3 wythnos ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys gofyniad Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed ailgylchu o 70% erbyn 2024/24 (yn ogystal â chefnogi Cymru i ddod yn wlad sero-net carbon erbyn 2030).

Bydd y wardeiniaid yn canolbwyntio ar raglen ymwybyddiaeth gyhoeddus y Cyngor er mwyn hyrwyddo ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff. Bydd y wardeiniaid yn allweddol wrth helpu'r Cyngor i gynyddu ei gyfraddau ailgylchu i’r eithaf trwy addysgu, rhannu gwybodaeth a gorfodi.

A chithau'n warden, byddwch chi'n gweithio gydag aelwydydd unigol, gan gynnal ymweliadau drws-i-ddrws, mynychu sioeau ac achlysuron teithiol a thrafod ag ystod o grwpiau cymunedol, cyn ac ar ôl i ni gyflwyno'r newidiadau i'r gwasanaeth.

Byddwch chi'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn gweithio gydag ystod o gynulleidfaoedd a byddwch chi'n frwdfrydig am weithio gyda'r gymuned leol. Byddwch chi'n gweithio'n annibynnol yn ogystal ag yn rhan o garfan a byddwch chi'n rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol.

Bydd y wardeiniaid newydd yn ymuno â swyddogion cyfredol yn y Garfan Gorfodi Materion yr Amgylchedd, sy'n gorfodi deddfwriaeth sy'n ymwneud â sbwriel, tipio’n anghyfreithlon, baw cŵn, sbwriel a gweithgareddau anghyfreithlon eraill fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. 

Bydd dyletswyddau eraill yn ymwneud â delio â materion gwastraff fel bagiau ailgylchu wedi'u llygru, gormod o fagiau du, biniau ar briffyrdd, ac ati. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig i aelodau'r cyhoedd o dro o dro, a hynny mewn sefyllfa wyneb yn wyneb. Yn ogystal â hynny, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fynd i'r Llys i roi tystiolaeth yn ymwneud â'r achosion yma pan fydd angen.

Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar sail rota shifftiau sy'n cynnwys gweithio oriau anghymdeithasol ar eu pen eu hunain. Rhaid iddyn nhw fod yn y wisg swyddogol tra'u bod nhw ar ddyletswydd.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch Tim Jones, Rheolwr Ymwybyddiaeth o Faterion yr Amgylchedd a Materion Gorfodi ar (01443) 827710.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2023.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Glantaf
Treforest Ind Est
Pontypridd
CF37 5TT
7 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.